HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Alban (Shiel Bridge) 15-22 Chwefror



Cafwyd llety cysurus a hwylus dros ben yn y Shiel Lodge, 17 ohonom dan yr un to mewn hen blasdy hela a thri arall wedi gwneud eu trefniadau eu hunain gerllaw.  Cafwyd tywydd cymysglyd, yn eithaf sych am y deuddydd cyntaf ond yna glaw trwm ganol yr wythnos cyn gwella eto wedyn – a gwynt cryf dros ben ar rai dyddiau yn ychwanegu at yr ymdrech.
   Dewisodd y rhan fwyaf gerdded gyda’i gilydd ac felly cafwyd criwiau o rhyw ddeg i ddwsin ar y rhan fwyaf o’r teithiau, gyda rhai’n dewis ambell ddiwrnod o feicio, ymweld ag ynys Skye ac ati er mwyn amrywiaeth.  Ac i brofi bod Clwb Mynydda Cymru’n glwb i bawb, roedd yr oedran yn amrywio o’r ugeiniau i 72!

Dydd Llun, 16 Chwefror – An Diolliad a Sgurr na Sgine
An Diollaid ar hyd crib enwog y Forcan ac yna Sgurr na Sgine oedd nod y rhan fwyaf, ond Arwel a Dylan yn mynd a’u beiciau tua’r gogledd i roi cynnig ar fwlch Bealach na Ba, un o’r dringfeydd serthaf a mwyaf heriol ar ynysoedd Prydain.  Gan fod pen y bwlch dros 2,000’ o uchder, doedd dim rhyfeddod iddynt orfod troi’n ôl oherwydd trwch o eira ar y ffordd!    
   Cafwyd tipyn o eira ar y Forcan hefyd oedd yn ein harafu ond llwyddwyd i groesi’r grib, gyda rhai rhannau digon heriol, hyd at y dibyn deng medr unionsyth cyn codi am y copa, ble bu’n rhaid gosod rhaff i fynd lawr y llethr eira i’r chwith.  Barnwyd nad oedd digon o amser i fachu dau gopa, felly penderfynwyd peidio ail esgyn i’r grib am An Diollaid (sydd, ysywaeth, yn fwy adnabyddus bellach wrth ei enw Saesneg, Saddle) ond yn hytrach mynd yn syth am Sgurr na Sgine gyda’r cymylau’n codi i ddatgelu rhesi ar resi o gopaon i bob cyfeiriad.  Wedi taith hir lawr Coire Mhalagain cyrhaeddwyd yn ôl at y ceir fel roedd yn tywyllu.

Dydd Mawrth, 17 Chwefror – Beinn Fhada ac A’ Ghlas-bheinn
Taith fer yn y ceir i Strath Croe oedd hi’r bore wedyn gyda’r rhagolygon yn addo glaw a gwyntoedd cryfion o hyd at 60-70 milltir yr awr.  Er hynny, roedd yn sych ar hyd y llwybr graddol i fyny’r cwm ac yna’r fwy serth tuag at Beinn Fhada gyda’r gwynt yn ei gwneud yn anodd i sefyll yn unionsyth – ond o leiaf roedd yn wynt cyson a llwyddodd pawb i gyrraedd y copa heb ormod o drafferth.  Penderfynwyd dychwelyd am rhyw ddwy filltir ar hyd yr un llwybr yn hytrach na mynd lawr dibyn serth yn unionsyth at yr ail gopa – penderfyniad doeth!  Roedd rhai wedi cael digon ar frwydro yn erbyn y gwynt ac aethant am y ceir ond aeth y rhan fywaf yn eu blaen i fyny i fwlch y Beallach na Sgairne (a gwynt cryfa’r wythnos!) cyn esgyn A’ Ghlas-bhein dros nifer o ‘gopaon ffug’.  Erbyn hynny roedd y cymylau wedi cau amdanom a’r glaw yn disgyn yn ddi-baid wrth inni frasgamu lawr yr ysgwydd gogledd-orllewinol i gyrraedd fordd coedwigaeth yn ôl i’r maes parcio. 
   Unwaith eto aeth Dylan ac Arwel eu ffordd eu hunain – i Maol Chean Dearg – gyda Sian yn gwmni iddynt.

Dydd Mercher, 18 Chwefror – Moruisg
Glaw di-baid a chyson drwy’r dydd oedd addewid pobl y tywydd felly dewisiwyd Moruisg, rhyw 35 milltir i ffwrdd yng Nglen Carron.  Wedi parcio ar ochr y ffordd, roedd llwybr yn arwain yn syth at ysgwydd laswelltog ond serth iawn mewn mannau yn union i’r copa.  Llwyddodd pawb i gyrraedd y brig mewn tua dwyawr ac i lawr mewn awr – gyda’r tri ifanc, Huw, Dan a Gerallt lawr mewn llai na hanner hynny.  Gan fod copa cyfagos Sgurr na Ceanaichan wedi ei ail-fesur yn ddiweddar yn 913 medr ac felly wedi colli ei le ar restr swyddogol y Munros, doedd neb awydd ymestyn y daith ar hyd y grib tuag ato – er ei fod, ar ddiwrnod clir, beth bynnag, yn fynydd llawer mwy urddasol na’i gymydog sydd bymtheg medr yn uwch.  Ac roedd y rhagolygon yn berffaith gywir – glaw trwm a gwynt cryf drwy’r dydd, ond o leiaf roedd tân cysurus yn ei haros nôl yn y llety!
  Teithiodd Dylan ac Arwel ymhellach i’r gogledd i esgyn Fionn Bhein o Achnasheen – mynydd digon tebyg, 933 medr o uchder.

Dydd Iau, 19 Chwefror – Beinn Sgriatheall
Y mwyafrif yn troi tua’r gorllewin ac ar hyd ffordd gefn gul dros Bealach Ratagan ac i Glenelg a pharcio rhyw ddwy filltir o Arnsdale, un o bentrefi mwyaf anghysbell tir mawr yr Alban yn edrych ar draws Loch Hourn tuag at diroedd gwyllt Knoydart.  Esgynwyd crib orllewinol hynod o serth Beinn Sgriatheall gydag awyr las yn dod i’r golwg a golygfeydd dramatig i lannau’r loch yn unionsyth bron oddi tanom.  Roedd peth hen eira o bobtu’r copa a chafodd y rhai oedd yn dymuno hynny gyfle i wisgo eu cramponau cyn mynd tua’r de-ddwyrain i Bealach Arnasdail ac i lawr i’r pentref lle’r car wedi ei adael i fynd â’r gyrrwyr nol i’r man cychwyn.  Diwrnod gwych – yr unig siom oedd fod cwmwl a chawod o law wedi digwydd taro pan oeddem ar y copa a bod y dafarn yn Glenelg (Open All Day) ddim yn agor tan bump!
   Gan fod Dylan eisoes wedi dringo Beinn Sgriatheall, Moruisg oedd y gyrchfan iddo ef ac Arwel y tro yma!   Tybed a ddylid egluro nad oeddem wedi ffraeo efo nhw o gwbl!

Dydd Gwener, 20 Chwefror – Maol Chean-dearg
Aeth y rhan fwyaf yn ôl tua Glen Carron a gadael y ceir ar ochr y ffordd ger pont Coulag a cherdded yn hamddenol i fyny cwm braf am rhyw dair milltir, gan oedi am baned mewn cysur cymharol dan do mewn bothy, a oedd gan mlynedd yn ôl yn gartref anghysbell i gipar a thrwsiwr llwybrau a’i wraig.  Yn fuan wedyn, roedd yn rhaid esgyn yn fwy serth i Bealach a’ Choire Ghairbh i fwynhau’r olygfa ar draws loch uchel at fynydd creigiog o dywodfaen coch An Ruadh-stac cyn troi i’r cyfeiriad arall tuag at ein copa ni, Maol Chean-dearg, a’r enw “pen moel coch” yn adlewyrchu natur y graig.  Unwaith eto, daeth y cymylau i lawr o bobtu’r copa ond llwyddwyd ar y ffordd i fyny i gael cip ar bentref Torridon a godre mynyddoedd mawreddog Beinn Alligin a Liathach.  Cafwyd peth haul wedyn wrth ddychwelyd yr un ffordd ond cawod y law am yr ugain munud olaf i’n gwlychu cyn cyrraedd y ceir.
   Arhosodd eraill yng Nglen Shiel.  Cafodd Dylan ac Arwel (roeddem dal yn ffrindiau!) ddiwrnod gwych ar eira caled a chrib fain Ciste Dhubhi’r gogledd o Loch Cluanie a’r dafarn enwog o’r un enw. 
   Roedd y tri ifanc wedi gadael yn gynnar gyda’r bwriad o gerdded saith copa ar hyd crib ddeuheuol Glen Shiel, gan fynd o’r gorllewin tua’r dwyrain gan obeithio y byddai’r gwynt i’w cefnau.  Cawsant hwythau eira da a chyfle i wisgo cramponau ar hyd y copaoan gyda Dan a Huw’n rhoi’r gorau iddi cyn y diwedd ond Gerallt yn bachu’r saith – Creag nan Damh, Sgurr an Lochain, Sgurr an Doire Leathan, Maol Chin-dearg, Aonach air Chrith, Druim Shionnach a Creag a’Mhaim – mewn tuag wyth awr.

Dydd Sadwrn, 21 Chwefror – Bla Bheinn
Penderfynodd llawer ddychwelyd adref er gwaethaf rhagolygon twydd da a’r bwriad i groesi i Skye i ddringo mynydd gwych Bla Bheinn, yr unig Munro ar yr ynys sydd ar wahân i’r un-ar-ddeg ar grib enwog y Cuillin – ond mynydd sydd o’r un natur greigiog gyda chribiau culion a hafnau serth yn codi syth o lefel y môr.  Ac mi gafodd y rhai a fentrodd aros, ddiwrnod i’w gofio gyda thywydd da a golgfeydd ysblennydd a digon o eira hefyd i osod peth her – diwrnod gorau’r wythnos meddan nhw!

Y criw:  Raymond Wheldon-Roberts, Marion Hughes, Arwel Roberts, Dewi Hughes, Eryl Owain, Gerallt Owain, Gareth Williams, Dylan Huw, Prys Ellis, Dan Pyrs, Mike Royle, Gareth Wyn, Sian Williams, Maldwyn Roberts, Gareth Roberts, Huw Brassington ac Iolo Roberts yn aros yn y Lodge ac Iolyn Jones ac yna Anita Daimond a Gwyn Roberts tua diwedd yr wythnos yn Shiel Bridge.

Adroddiad gan Eryl Owain

Lluniau gan Gareth Roberts a Iolo Roberts ar FLICKR